Seiclon Yasi
Mae seiclon enfawr wedi taro gogledd ddwyrain Awstralia gan achosi difrod mawr i filoedd o gartrefi – ond doedd pethau ddim cynddrwg â’r ofnau gwreiddiol.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud bod calon Seiclon Yasi wedi taro tref Mission Beach yn Queensland gan rwygo toeau a thorri pŵer.

Mae dwsinau o drefi a dinasoedd eraill yn y rhanbarth yn agos i’r Great Barrier Reef wedi cael eu heffeithio gan law trwm.

Mae’r adroddiad diweddara’ gan bapur y Sydney Morning Herald yn awgrymu bod dau o bobol ar goll.

Does dim darlun llawn o faint y difrod eto oherwydd ei bod yn rhy beryglus mynd allan i’r awyr agored. Does dim adroddiadau swyddogol am farwolaethau nac anafiadau hyd yn hyn.

Mae mwy na 10,000 o bobol wedi ffoi o’u cartrefi i 20 o ganolfannau lloches.

Gostwng

Yn wreiddiol fe gafodd seiclon Yasi ei ddyfarnu’n storm categori pump – yr un lefel â chorwynt Katrina a drawodd New Orleans yn 2005. Bellach mae wedi ei ostwng i gategori dau.
.
Fe fydd y seiclon yn ychwanegu at ofidiau trigolion Queensland sydd eisoes wedi wynebu misoedd o lifogydd a laddodd 35 o bobol.