Hosni Mubarak, Arlywydd yr Aifft - o dan bwysau
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi ymuno â nifer o arweinwyr Ewrop heddiw i gynyddu’r pwysau ar Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, i ddod â’i 30 mlynedd o deyrnasiad i ben.

Mewn datganiad ar y cyd, galwodd David Cameron, ynghyd ag arweinwyr Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sbaen, am ddechrau’r broses o ffurfio llywodraeth newydd, ehangach yn syth.

Fe ddaw eu galwad wrth i danciau a milwyr byddin yr Aifft gychwyn ceisio rhwystro’r trais rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr Hosni Mubarak yng nghanol y brifddinas Cairo heddiw.

Yn y cyfamser, dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n trefnu ail awyren i ddod â Phrydeinwyr yn ôl o Cairo, oherwydd “ansefydlogrwydd sefyllfa’r wlad.”

Gwarchod hawl i brotestio

Wedi gwrthdaro treisgar rhwng y protestwyr o blaid ac yn erbyn yr Arlywydd ddoe, cyhoeddodd arweinwyr Ewrop heddiw fod yn rhaid i’r hawl i brotest heddychlon gael ei pharchu.

“Rydyn ni’n gwylio’r sefyllfa’n gwaethygu yn yr Aifft gyda’r pryder mwyaf,” meddai’r datganiad.

“Mae’n rhaid i bobl yr Aifft gael yr hawl i ymgynnull yn heddychlon, a’r sicrwydd o gael eu gwarchod gan y lluoedd diogelwch. Mae ymosodiadau ar newyddiadurwyr yn gwbl annerbyniol.

“Rydyn ni’n condemnio pob un sy’n defnyddio trais, sy’n sicr o waethygu’r argyfwng gwleidyddol yn yr Aifft.”

Mae’r datganiad yn gorffen gan ofyn i’r newid llywodraethol ddigwydd ar frys – sylw sy’n adleisio galwadau’r Tŷ Gwyn.

Addawodd swyddfa David Cameron y byddai Prydain “yn defnyddio pob dull posib i roi pwysau ar y gyfundrefn.”