Meryl Streep a Jean Dujardin
Y ffilm ddi-sain du a gwyn The Artist aeth â hi yn seremoni’r Oscars neithiwr gan ennill pump o wobrau gan gynnwys y ffilm orau, yr actor gorau – i Jean Dujardin – a’r cyfarwyddwr gorau.

Wrth dderbyn ei Oscar, roedd cyfarwyddwr The Artist, Michel Hazanavicius, wedi rhoi teyrnged i’w wraig, Berenice Bejo oedd hefyd wedi ei henwebu am Oscar.

Fe enillodd Meryl Streep ei thrydedd Oscar am ei rhan yn chwarae’r cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher yn y ffilm The Iron Lady.

Fe enillodd Christopher Plummer, sy’n 82 oed, Oscar am ei rôl yn y ffilm Beginners – yr actor hynaf i ennill Oscar.

Ac fe gipiodd Octavia Spencer Oscar am ei rhan yn y ffilm The Help – yr actor Christian Bale, sy’n enedigol o Gymru a gyflwynodd yr Oscar iddi.

Roedd ffilm Martin Scorsese Hugo hefyd wedi cipio pump Oscar ond yn bennaf yn y categoriau technegol.

Yn ystod y seremoni yn Theatr Kodak yn Los Angeles fe fu na deyrngedau hefyd i rai o’r ser  fu farw yn ystod y 12 mis dweithaf gan gynnwys Elizabeth Taylor, Whitney Houston a Ken Russell.