Hosni Mubarak (Fforwm Economaidd y Byd)
Mae miloedd o gefnogwyr a gwrthwynebwyr Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, wedi bod yn ymladd ar strydoedd Cairo heddiw, gan daflu cerrig, poteli a bomiau tân ar ei gilydd.

Cafodd un person ei ladd pan syrthiodd oddi ar bont a chafodd bron i 600 o bobl eu hanafu yn ôl gweinyddiaeth iechyd yr Aifft.

Fe ddechreuodd y gwrthdaro yng nghanol Cairo y bore yma, lle mae miloedd o brotestwyr wedi bod yn ymgynnull dros yr wythnos ddiwethaf yn galw am ymddiswyddiad yr arlywydd.

Dyma’r tro cyntaf i niferoedd mawr o gefnogwyr Mubarak ddod allan ar y strydoedd, gyda miloedd ohonyn nhw’n galw ar y protestwyr roi’r gorau iddi ar ôl ei gyhoeddiad neithiwr y bydd yn mynd ym mis Medi.

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro o fewn oriau i luoedd arfog yr Aifft apelio am ddiwedd i’r protestiadau.

Wrth geisio apelio am heddwch, dywedodd llefarydd ar ran y lluoedd arfog ar deledu’r wlad wrth y protestwyr yn erbyn y llywodraeth fod “eich negeseuon wedi cyrraedd, eich dymuniadau yn hysbys.”

Rhyngrwyd

Dychwelodd gwasanaeth rhyngrwyd i’r Aifft heddiw hefyd, ar ôl cael ei atal am ddiwrnodau gan lywodraeth yr Aifft, ac mae’r gwaharddiad ar fod allan ar y strydoedd wedi ei ymestyn o 3pm i 5pm.

Mae’n ymddangos nawr fod yr Arlywydd a’r lluoedd arfog yn gwneud cais ar y cyd i derfynu’r gwrthdystiadau cyhoeddus a ddechreuwyd ar y rhyngrwyd yn sgîl anfodlonrwydd gyda system unbeniaethol a llwgr y llywodraeth.

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf hyn gan y lluoedd arfog ddeuddydd wedi iddyn nhw gyhoeddi ddydd Llun na fydden nhw’n atal y protestwyr trwy ddulliau treisgar, a bod gan y protestwyr ofynion digon cyfiawn.

Ddoe, daeth dros 250,000 o bobl i mewn i brif sgwar Cairo er mwyn galw ar yr Arlywydd Mubarak i adael yn y diwrnodau nesaf.

Oriau’n ddiweddarach, ymatebodd yr Arlywydd gyda datganiad herfeiddiol i’r dyrfa yn dweud y bydde fe yn aros yn ei swydd nes bod ei dymor yn dod i ben o fewn y mis, ac y byddai yn “marw ar bridd yr Aifft.”