Map yn dangos lleoliad Yemen ar arfordir deheuol penrhyn Arabia (o wefan Wikipedia)
Mae arweinydd gwlad Arabaidd arall wedi cytuno i ildio’r awenau mewn ymateb i brotestiadau yn y wlad.

Mae arlywydd Yemen wedi dweud wrth y llywodraeth na fydd e’n ceisio tymor arall yn ei swydd nac yn trosglwyddo grym i’w fab.

Awgryma hyn fod digwyddiadau yn y wlad fwyaf deheuol ar benrhyn Arabia’n dilyn patrwm tebyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn Tunisia a’r Aifft.

Mae Ali Abdyllah Saleh, sydd wedi bod yn gyfeillgar ag America ac mewn grym ers 32 o flynyddoedd, wedi siarad gyda gwleidyddion yn nau dŷ’r llywodraeth.

“Fydda i ddim yn ceisio ymestyn fy arlywyddiaeth am dymor arall nac yn ei drosglwyddo i fy mab,” meddai.

Mae ymgyrchwyr a chefnogwyr y gwrthbleidiau wedi cynnal sawl protest yn Sanaa, gan alw am ddisodli’r Arlywydd Saleh ac ymosod ar adroddiadau ei fod e’n bwriadu trosglwyddo grym i’w fab. Mae’r gwrthbleidiau wedi galw am rali fawr gwrth-Saleh ddydd Iau ym mhob talaith.

Ymgais i dawelu

Roedd yr Arlywydd wedi ceisio tawlu’r gwrthwynebwyr yn Yemen trwy godi cyflogau’r fyddin a gwadu honiadau ei fod yn mynd i drosglwyddo’r awenau i’w fab.

Ond wnaeth hynny ddim atal y gwrthwynebwyr rhag trefnu protestiadau ar strydoedd y brif ddinas, Sanaa. Ym mis Ionawr, daeth degau o filoedd o bobl at ei gilydd am ddyddiau o bostestio yn galw ar yr Arlywydd Saleh i ildio’i swydd.

Mae’r gwrthwynebwyr hefyd wedi gwrthod cwrdd â’r Arlywydd i drafod, gan ddweud mai rhywbeth i “dawelu’r protestwyr” yw’r cynnig.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwrthwynebwyr, Mohammed al-Sabri, ei fod hefyd yn amau addewid yr Arlywydd i gamu i lawr. Yn ôl Mohammed al-Sabri, gwnaed adewid tebyg gan yr Arlywydd Saleh yn 2006, ond methodd â chadw’r addewid bryd hynny.