Barack Obama - cynyddu'r pwysau ar Mubarak
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi galw ar i Arlywydd yr Aifft ddechrau ar unwaith ar y broses o drosglwyddo grym.

Neithiwr, fe gyhoeddodd Hosni Mubarak y byddai’n mynd ym mis Medi ond mae Barack Obama wedi dweud bod angen gweithredu cyn hynny.

Mae’r byd yn aros i weld beth fydd ymateb y protestwyr yn yr Aifft i gyhoeddiad eu Harlywydd – yr argraff gynta’ yn y prif sgwâr yn y brifddinas Cairo oedd bod protestwyr yn parhau’n anfodlon.

Yn ôl Barack Obama, mae angen i’r broses ddemocrateiddio ddechrau ar unwaith ac mae’n bwysig, meddai, ei bod yn “cynnwys nifer o leisiau gwahanol a phleidiau gwleidyddol”.

Roedd hefyd yn galw am “etholiadau rhydd a theg” ond, yn ôl sylwebyddion yn yr Aifft, un o’r problemau yw diffyg arweinwyr a pholisïau eraill.

Roedd tua 250,000 o bobol yn Sgwâr Tahrir yng nghanol Cairo ddoe ac fe fu gwrthdaro treisgar mewn dinas fawr arall, Alexandria, a hynny rhwng protestwyr yn erbyn, ac o blaid, yr Arlywydd.

Y cefndir

Yn hwyr neithiwr y daeth y datganiad gan yr Arlywydd Mubarak, yn dweud na fyddai’n sefyll yn yr etholiad nesa’ ym mis Medi ac nad oedd wedi bwriadu sefyll beth bynnag.

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn bwriadu treulio gweddill ei ddyddiau yn yr Aifft – er gwaetha’ sïon cynharach ei fod yn chwilio am gyfle i adael.

Mae agwedd yr Unol Daleithiau tuag ato wedi caledu wrth iddi ddod yn amlwg na allai’r Arlywydd 82 oed ddal ei afael mewn grym.

Yr Unol Daleithiau yw prif noddwr ariannol yr Aifft ac mae’r wlad yn cael ei hystyried yn bartner pwysig yn y Dwyrain Canol.