Bae Guantanamo
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague yn “gweithio’n galed iawn” i sicrhau bod carchar milwrol dadleuol Bae Guantanamo yn cau, meddai’r Prif Weinidog David Cameron heddiw.
Dywedodd David Cameron wrth Aelodau Seneddol bod William Hague yn cynnal trafodaethau gyda swyddogion a gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau er mwyn sicrhau bod y carchar, gafodd ei sefydlu 10 mlynedd yn ol i heddiw yn sgil penderfyniad America i fynd i ryfel yn erbyn Affganistan, yn cau.
Ar hyn o bryd, mae un Prydeiniwr yn cael ei gadw ym Mae Guantanamo.
Dywedodd AS y Dems Rhydd Mike Crockart yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw bod y carchar milwrol yn “ffiaidd” ac mae wedi galw ar David Cameron i wneud popeth yn ei allu i gau’r carchar o fewn y flwyddyn.