Tsunami Japan
Mae daeargrynfeydd Japan a Seland Newydd wedi profi’r rhai mwyaf costus hyd yma i gwmnïau yswiriant.

Mae Munich Re wedi dweud mewn adroddiad blynyddol fod y cwmni yswiriant wedi talu £67 biliwn yn dilyn trychinebau naturiol y llynedd. Dyma bron i £3 biliwn yn fwy na’r record ddiwethaf yn 2005 ar ôl i gorwynt Katrina daro New Orleans.

Yn ôl y cwmni, roedd cyfanswm trychinebau naturiol y llynedd  – gan gynnwys colledion oedd ddim yn yswiriedig – yn £243 biliwn.

Fe wnaeth daeargryn a tsunami Japan ym mis Mawrth achosi colledion o hyd at £25.5 biliwn.

Yr ail drychineb naturiol fwyaf costus oedd trychineb Christchurch yn Seland Newydd ddaeth i £8.3 biliwn.