Mae’r byd “yn beryglus o amharod” ar gyfer trychinebau’r dyfodol am nad yw gwledydd cyfoethog yn cyfrannu digon at gronfa arian argyfwng rhyngwladol.

Dyna farn Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Llywodraeth San Steffan, Andrew Mitchell.

Ni fydd y gronfa Gronfa Ymateb Brys Canolog a sefydlwyd yn dilyn y tsunami ar Ddydd Gŵyl San Steffan 2004 yn agos o fod yn llawn y flwyddyn nesaf, meddai.

Mae hynny er gwaethaf blwyddyn o drychinebau argyfyngus, gan gynnwys daeargrynfeydd yn Japan a Seland Newydd, a llifogydd ym Mhacistan a’r Pilipinas.

Ychwanegodd ei fod yn debygol y bydd yna fwy o drychinebau o’r fath yn y dyfodol wrth i ragor o bobol fyw mewn ardaloedd sy’n agored i niwed.

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi addo rhoi £60 miliwn i’r Gronfa Ymateb Brys Canolog y flwyddyn nesaf.

Maen nhw hefyd wedi galw ar lywodraethau gwledydd eraill i “ddeffro” i’r heriau posib sy’n eu hwynebu nhw yn y dyfodol.

Dywedodd Andrew Mitchell fod nifer o wledydd yn disgwyl nes bod argyfwng wedi taro cyn ymateb, a bod hynny’n arafu’r gwaith o achub goroeswyr.

“Yn ystod yr oriau cyntaf rheini pan mae goroeswyr yn gaeth dan y rwbel, mae unrhyw oedi neu ddryswch yn golygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw,” meddai.

“Mae angen i’r gymuned ryngwladol ddeffro ac uno ei hymdrechion dan un ymbarél.”