Kim Jong Il, chwith, gyda'i dad Kim Il Sung
Mae Gogledd Corea wedi cyhoeddi bod eu harweinydd Kim Jong Il wedi marw yn 69 oed ar ôl cael trawiad ar y galon.

Mewn darllediad arbennig ar deledu’r wlad o’r brifddinas Pyongyang, cyhoeddwyd bod Kim wedi marw ar drên yn ystod ymweliad ar 17 Rhagfyr.

Yn ôl yr adroddiadau, cafodd post mortem ei gynnal ar Rhagfyr 18 oedd yn cadarnhau’r diagnosis.

Credir bod Kim wedi cael strôc yn 2008 ond roedd yn ymddangos yn iach yn ystod ymweliadau diweddar â China a Rwsia, ac yn ystod nifer o ymweliadau ar draws  y wlad.

Yn y darllediad, dywedodd y cyflwynydd mai “dyma’r golled fwyaf i’r blaid… dyma’r tristwch mwyaf i’n pobl a’n cenedl.”

Yn dilyn ei farwolaeth, cyhoeddwyd ar deledu De Corea bod byddin Seoul ar eu gwyliadwriaeth a bod yr Arlywydd Lee Myung-bak wedi cynnal cyfarfod brys o’r cyngor diogelwch yn dilyn y newyddion.

Mae na bryder yn rhyngwladol am ansefydlogrwydd yn y rhanbarth a dywedodd llefarydd ar ran y Ty Gwyn eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa. Mae cynlluniau niwclear Gogledd Corea wedi peri pryder, ac mae na ofnau y bydd y rhwyg rhwng y de a’r gogledd yn gwaethygu yn dilyn y newyddion.

Roedd Kim Jong Il wedi dod yn arweinydd y wlad Gomiwnyddol yn dilyn marwolaeth ei dad, Kim Il Sung ym 1994.

Ym mis Medi 2010, roedd Kim Jong Il wedi cyhoeddi mai ei fab Kim Jong Un, sydd yn ei ugeiniau, fyddai ei olynydd.

Roedd pobl Gogledd Corea yn eu dagrau ar ôl clywed am farwolaeth eu harweinydd ac roedd cyfranddaliadau ar y farchnad stoc yn Asia wedi gostwng yn dilyn  y newyddion.

Fe fydd na gyfnod o alaru cenedlaethol hyd 29  Rhagfyr a bydd angladd Kim yn cael ei gynnal ar 28 Rhagfyr.