Bolifia
Mae heddlu Bolifia wedi dweud bod o leiaf 30 o bobl wedi marw ar ôl i fws a lori geisio croesi afon mewn llifogydd.

Dywedodd pennaeth yr heddlu yn Chuquisaca, Iver Marquez, bod timau achub wedi dod o hyd i 30 o gyrff hyd yn hyn, ond nad oedd sôn am rai o’r teithwyr.

Llwyddodd 13 o bobl i ddringo allan o’r afon ar ôl i’r cerbydau fynd yn gaeth mewn dŵr mwdlyd yn Afon Molle Punku nos Wener ddiwethaf.

Mae’r afon yn sych am y rhan fwyaf o’r flwyddyn a does dim pont ar gael i’w chroesi. Daeth y llifogydd yn sgil glaw trwm oriau ynghynt.

Dywedodd Iver Marquez bod milwyr a gwirfoddolwyr lleol yn parhau i edrych am gyrff neu oroeswyr yn yr ardal anghysbell yn nwyrain y wlad.