Bourbon Street, New Orleans
Mae o leia’ dau berson wedi marw ac 14 arall wedi eu hanafu ar ôl i bobol ddechrau saethu yng nghanol dathliadau Calan Gaeaf yn New Orleans.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i bump achos gwahanol o saethu, gan gynnwys un a adawodd dyn yn farw a nifer o rai eraill wedi eu hanafu ger clwb nos enwog Chris Owen yn  Stryd Bourbon, yn yr ardal Ffrengig sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.

Yn ôl uwch-swyddog gyda’r heddlu lleol, Ronal Serpas, roedd yr ardal yn “orlawn” o dwristiaid ar y pryd, yn dathlu Calan Gaeaf.

Mae Maer y ddinas, Mitch Landrieu, wedi ymateb drwy ddweud fod y “diwylliant o drais” sy’n codi o ddynion ifanc croenddu sy’n berchen ar ynnau yn niweidio’r ddinas, a bod yn rhaid eu hatal.