Mae cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Jim Mattis, wedi dweud ei fod wedi’i “arswydo a’i gynddeiriogi” gan ymateb llawdrwm yr Arlywydd Donald Trump i’r protestiadau ger y Tŷ Gwyn.

Roedd Jim Mattis wedi ymddeol o’i swydd ym mis Rhagfyr 2018 ar ôl gwrthdaro gyda Donald Trump ynglŷn â Syria.

Mae wedi beirniadu’r Arlywydd am ddefnyddio’r lluoedd arfog i dawelu’r protestiadau a ddechreuodd yn dilyn marwolaeth George Floyd tra roedd yng ngofal yr heddlu.

Dywedodd Jim Mattis: “Donald Trump yw’r arlywydd cyntaf yn ystod fy mywyd i sydd ddim yn ceisio uno pobl America – dydy o ddim hyd yn oed yn cymryd arno ei fod yn trio. Yn hytrach, mae’n ceisio ein gwahanu.”

Fe ymatebodd Donald Trump ar Trydar drwy ddweud nad oedd yn hoff o “arweinyddiaeth” Jim Mattis, “ac mae llawer o rai eraill yn cytuno. Dw i’n falch ei fod wedi mynd!”.