Mae o leiaf 5,600 o bobol wedi cael eu harestio wrth i brotestiadau barhau ar draws yr Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth George Floyd yn Minneapolis.

Roedd George Floyd, dyn croenddu, wedi pledio am aer wrth i heddwas wasgu ar ei wddf â’i benglin cyn iddo farw.

Mae pobol wedi bod yn protestio ers dyddiau yn sgil marwolaeth George Floyd.

Dyma’r datblygiadau o dalaith i dalaith:

Las Vegas, Nevada

Mae heddwas wedi cael ei saethu ar y Las Vegas Strip, tra bod heddwas arall wedi bod yn rhan o saethu yn Las Vegas Boulevard.

St Louis, Missouri

Dywed yr heddlu fod pedwar heddwas wedi cael eu hanafu mewn achos o saethu wedi i’r protestio yn y ddinas, ddechreuodd yn heddychlon gan droi’n dreisgar dros nos, gyda phrotestwyr yn malu ffenestri a dwyn eitemau o fusnesau a chynnau tanau yng nghanol y ddinas.

Roedd protestwyr wedi ymgynnull o flaen swyddfa’r heddlu, lle saethodd heddweision nwy dagrau arnyn nhw.

Birmingham, Alabama

Dechreuodd gweithwyr yn ninas fwyaf Alabama gludo cofgolofn Cydffederal oddi yno ddydd Llun (Mehefin 1) wedi i brotestwyr fethu â’i ddinistrio’r noson gynt.

Roedd maer y ddinas Randall Woodfin wedi anfon gweithwyr i symud y cofgolofn 50 troedfedd wedi i gyrffiw ddod i rym am 7 yr hwyr.

Cicero, Illinois

Mae dau berson wedi cael eu lladd yn ystod y protestio yn Cicero, Chicago.

Dywed llefarydd fod 60 o bobol wedi cael eu harestio mewn tref i’r gorllewin o Chicago wedi i bobol dorri i mewn i siopau a busnesau a dwyn eitemau.

Washington DC

Mae’r heddlu wedi defnyddio nwy dagrau, pelenni a hofrenyddion i droi protestwyr i ffwrdd ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau.

Arhosodd protestwyr ar y strydoedd ymhell wedi’r cyrffiw am 7 yr hwyr a gafodd ei roi ar waith gan y maer Muriel Bowser.

Roedden nhw wedi treulio oriau’n gorymdeithio’n heddychlon o amgylch y ddinas cyn i’r hofrenyddion gyrraedd.

Louisville, Kentucky

Mae pobol wedi bod yn gorymdeithio wedi i berchennog bwyty barbeciw poblogaidd gael ei saethu’n farw ddydd Llun (Mehefin 1).

Bu farw David McAtee wrth i swyddogion heddlu a National Guard geisio gorfodi cyrffyw ar bobol yn sgil protestiadau yn y ddinas.

Mae pennaeth heddlu Louisville wedi colli ei swydd wedi i faer y ddinas Greg Fischer gael deall nad oedd camerâu corff y swyddogion heddlu ymlaen pan saethwyd David McAtee.

Atlanta, Georgia

Roedd protestwyr yn dal yn y strydoedd nos Lun (Mehefin 1) wrth i’r cyrffiw agosáu, a defnyddiodd swyddogion heddlu nwy dagrau yn fuan ar ôl 9 yr hwyr.

Bu i ran helaeth o’r protestwyr adael ar ôl hynny, er i rai aros wrth i’r heddlu ddechrau arestio pobol.

Olympia, Washington

Mae llywodraethwr talaith Washington Jay Inslee wedi lambastio bygythiad yr Arlywydd Donald Trump i anfon y fyddin i ddinasoedd i stopio’r protestio.

Mewn datganiad yn ymateb i sylwadau’r arlywydd, dywed Jay Inslee fod Donald Trump wedi “profi droeon nad yw’n gallu llywodraethu ac wedi dangos dim ond bravado ffals drwy gydol ei amser gwallgof mewn pŵer.”

“Nawr mae’n defnyddio pŵer yr arlywyddiaeth mewn ymdrech i guddio ei ofnusrwydd. Rwy’n gweddïo nad yw’r un milwr na pherson yn cael ei anafu neu eu lladd.”

Mae’r ardal wedi gweld sawl diwrnod o drais, gan gynnwys dinistr yng nghanol y ddinas.