Mae corff bachgen pump oed wedi cael ei dynnu o lyn yn sir Mayo yn Iwerddon.
Roedd wedi bod yn chwarae yn y dŵr yn Lough Mask neithiwr (nos Lun, Mehefin 1) pan aeth i drafferthion.
Bu’r gwasanaethau brys, gan gynnwys cychod a hofrennydd, yn chwilio amdano.
Daethon nhw o hyd i’w gorff yn ddiweddarach, yn ôl y Gardai (yr heddlu).
Mae’r heddlu lleol yn gofyn i bobol barchu preifatrwydd y teulu.