Mae Nissan wedi penderfynu cau eu ffatrïoedd yng Nghatalwnia ar ôl 40 mlynedd o weithio yn ôl y cwmni cynhyrchu ceir mewn cynhadledd i’r wasg yn Siapan.

Mae dros 3,000 o bobl yn gweithio ym mhum ffatri cynhyrchu ceir Japan yng Nghatalwnia ac mae undebau’n dweud y bydd y penderfyniad hwn nid yn unig yn effeithio arnyn nhw ond hefyd 20,000 o swyddi eraill yn anuniongyrchol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Nissan, Makoto Uchida, eu bod wedi “ystyried sawl mesur ” er mwyn cadw’r ffatrïoedd ar agor.

Eto i gyd, cadarnhaodd y bydd yn cau er ei fod yn “benderfyniad anodd”  a dywedodd ei fod yn bwriadu dechrau trafodaethau.

Yn ôl Makoto Uchida, mae angen  ail-strwythuro’r busnes, er y dywedodd hefyd y byddan nhw yn cynnal eu ffatri yn Sunderland yn Lloegr.

Yn fuan ar ôl y cyhoeddiad, dechreuodd gweithwyr brotestio y tu allan i weithfeydd Barcelona a Montcada i Reixac, a symudodd yr orymdaith o ffatri prifddinas Catalonia tuag at ganol y ddinas.

Mae undebau’n credu y bydd y cwmni yn cwblhau cau’r ffatrïoedd erbyn mis Rhagfyr.

20,000 o swyddi yn y fantol

Cyn i’r cwmni gyhoeddi ei gynllun strategol ar gyfer y dyfodol, esboniodd Llywodraeth Sbaen ei fod wedi cael gwybod gan y gwneuthurwyr ceir o Siapan am ei gynlluniau i symud  ar ôl misoedd o ansicrwydd.

Mae llywodraethau Catalonia a Sbaen wedi ymuno i osgoi cau’r ffatri yng Nghatalwnia ac mae’r ddau awdurdod wedi gweithio ar gynllun diwydiannol i berswadio’r cwmni Siapaneaidd i aros.

Mae Arlywydd Catalwnia wedi cadeirio sawl cyfarfod gyda nifer o Weinidogion, tra bod Sbaen yn bwriadu cynnal cyfarfod arall gydag awdurdodau Catalwnia, cyngor lleol Barcelona, a Chonsortiwm ystâd ddiwydiannol Zona Franca, lle mae Prif waith Nissan yn y wlad wedi’i leoli.

40 mlynedd o weithgarwch

Daeth Nissan i Gatalwnia yn 1980, lle mae ganddo bum canolfan: y brif ffatri, yn ystâd ddiwydiannol Zona Franca Barcelona, dwy ffatri arall yn Sant Andreu De La Barca a Montcada i Reixac, Canolfan yn EL Prat De Llobregat, a chanolfan ddosbarthu ym mhorthladd Barcelona.

Mae’r pum ffatri yn gyfrifol am 1.3% o gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Catalonia a 7% o sector diwydiannol Catalwnia.