Mae degau o filoedd o brotestwyr wedi mynd i’r strydoedd ar draws America unwaith eto i ddangos eu dicter wedi i ddyn du gael ei ladd gan blismon.

Ond mae’r aflonyddwch wedi bwrw cysgod dros brotestiadau heddychlon yn erbyn achosion o’r heddlu yn lladd pobl dduon.

Daw’r protestiadau yn dilyn marwolaeth George Floyd yn Minneapolis, oedd wedi cael ei ddal gan yr heddlu.

Mae’r plismon Derek Chauvin, 44, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio George Floyd, 44.

Yn ystod yr aflonyddwch, gwelwyd difrod i ddinasoedd o Philadelphia i Los Angeles ac aflonyddwch ger y Tŷ Gwyn.

Gwnaeth swyddogion y ddinas a’r wladwriaeth anfon miloedd o filwyr ac mae cyrffyw llym mewn grym i arafu symudiadau’r protestwyr.

Ond ni wnaeth hynny fawr ddim i atal yr anrhefn mewn  nifer o ddinasoedd.

Tensiwn yn cynyddu

Taflodd protestwyr yn Philadelphia gerrig a bomiau llaw at yr heddlu meddai swyddogion, tra bod achosion o ladrata o fusnesau mewn dros 20 o ddinasoedd Califfornia.

Cynyddodd y tensiynau y tu allan i’r Tŷ Gwyn lle’r oedd yr heddlu yn tanio nwy dagrau at y  dorf o fwy na 1,000 o brotestwyr ar draws y stryd yn Lafayette Park.

Rhedodd y dorf i ffwrdd a phentyrru arwyddion ffyrdd a rhwystrau plastig i gynnau tân mawr mewn stryd gyfagos.

Cafodd Gwarchodlu Cenedlaethol DC – tua 1,700 o filwyr – eu galw i mewn i helpu i reoli’r protestiadau, yn ôl dau swyddog o’r adran amddiffyn.

Gorymdeithio heddychlon

Ond er yr holl drais, roedd miloedd yn dal i orymdeithio’n heddychlon yn Phoenix, Albuquerque a dinasoedd eraill, gyda rhai yn galw am ddiwedd ar y tanau, y fandaliaeth a’r lladrad, gan ddweud ei fod yn gwanhau galwadau am gyfiawnder a newid.

“Maen nhw’n dal i ladd ein pobl,” meddai Mahira Louis, 15, a orymdeithiodd gyda’i mam a sawl cant arall mewn protest heddychlon trwy ganol Boston.

“Dwi wedi blino arno fe.”

Ond wrth i’r nos ddisgyn roedd y protestio hwn hefyd yn troi’n dreisgar, gyda rhai protestwyr yn taflu cerrig, briciau a photeli gwydr at swyddogion ac yn goleuo cerbyd heddlu ar dân.