Mae’r digrifwr Kevin Hart yn dweud ei fod e’n gofidio am ddiogelwch pobol groenddu yn yr Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth George Floyd yng ngofal yr heddlu.

Mae protestiadau mawr yn cael eu cynnal ledled y wlad ar ôl i’r dyn croenddu farw ym Minneapolis ar ôl i blismon â chroen gwyn bwyso ar ei wddf â’i goes am rai munudau.

Mae fideo o’r digwyddiad wedi mynd ar led ar y we, ac mae’n dangos George Floyd yn pledio am gael anadlu.

Mae Derek Chauvin, plismon 44 oed, yn wynebu dau gyhuddiad mewn perthynas â’i farwolaeth, gan gynnwys llofruddiaeth trydydd gradd a dynladdiad ail radd.

Neges Instagram

“Fel tad, dw i’n poeni am ddyfodol ein cenhedlaeth nesaf o ddynion croenddu a’r cenedlaethau ar ôl hynny a’r rhai ar ôl y rheiny,” meddai Kevin Hart ar Instagram, wrth ymyl llun ohono fe a’i fab dwy oed, Kenzo.

“Os nad ydyn ni’n gwneud ein gwaith nawr ac yn gwneud yr hyn allwn ni i gyflwyno cyfraith i’n helpu ni i deimlo’n ddiogel yn y strydoedd, bydd y math yma o drosedd yn parhau i ddigwydd heb ofid yn y byd.

“Mae angen cyflwyno deddf fydd yn gwneud y swyddogion hyn yn atebol yn ogystal â swyddogion eraill sy’n bresennol ar safle’r drosedd.

“Mae angen i hyn ddigwydd… Ddylai hyn ddim hyd yn oed fod yn destun trafod, fe ddylai fod yn WEITHRED ar unwaith!!!!!!

“Rydyn ni angen i chi, yr holl lywodraethwyr a meiri i gamu i fyny a gwneud y peth iawn.

“Dw i ddim yn gwybod sut i fynd ati ond dw i’n addo i chi y bydda i’n gwneud fy ngorau i’w ddatrys… DIGON YW DIGON!

“Rydyn ni’n haeddu cael teimlo’n ddiogel. Byddai deddf fel hyn yn rhoi elfen o gysur i ni.

“Dylai canlyniadau’r fath weithredoedd gwarthu ddod ar unwaith ac yn hysbys i bawb.

“Ugain mlynedd yn y carchar neu oes o garchar… rhaid i ni gael rhywbeth… dylai’r swyddogion eraill sy’n bresennol ond sydd ddim yn atal y gweithredoedd hyn gael cyfnod [o garchar] hefyd.

“RHAID I RYWBETH YN Y DREFN NEWID NAWRRRRR! Yn syml… Digon yw Digon!”