Mae dros 100,000 o bobl wedi marw o’r coronafeirws yn yr Unol Daleithiau, tra bod  nifer fawr o bobl wedi cael eu heintio yn India, ac mae arwyddion bod y feirws yn dychwelyd yn Ne Corea.

Mae’r ffigwr hwn yn golygu fod mwy o bobl yn yr Unol Daleithiau wedi marw o’r feirws nag yn rhyfel Fietnam a Corea gyda’i gilydd.

Yn India, lle mae disgwyl i’r cyfyngiadau ddod i ben ddydd Sul (Mai 31), roedd  6,500 o achosion newydd ddydd Iau (Mai 28).

Tra bod 79 achos newydd yn Ne Corea, y cynnydd dyddiol mwyaf yno ers 50 diwrnod.

Mae swyddogion iechyd yn Ne Corea wedi rhybuddio fod y feirws yn mynd yn anoddach i’w olrhain a bod angen cymryd mesurau megis ymbellhau cymdeithasol.

Ledled y byd, mae’r feirws wedi heintio dros 5.5 miliwn o bobl ac wedi lladd 350,000, gyda’r Unol Daleithiau’n dioddef y mwyaf o achosion a marwolaethau, yn ôl Prifysgol John Hopkins.

Mae 170,000 o bobl wedi marw yn Ewrop.

Ond gydag arbenigwyr yn credu fod nifer wedi marw heb gael eu profi, mae gwir nifer y marwolaethau yn debygol o fod yn uwch.

Methiannau Donald Trump

Ar ddechrau’r pandemig byd eang, roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi cymharu’r coronafeirws â’r ffliw gan ddarogan na fyddai nifer y marwolaethau yn yr Unol Daleithiau’n cyrraedd 100,000.

“Dwi’n meddwl y byddwn yn sylweddol is na’r rhif hwnnw,” meddai ar Ebrill 10.

10 diwrnod yn ddiweddarach dywedodd: “Rydym yn cyrraedd 50,000 neu 60,000 o bobl,” cyn dweud fod y wlad “fwy na thebyg yn cyrraedd 60,000 neu 70,000” o farwolaethau 10 diwrnod wedyn.

Yn ôl nifer o’i wrthwynebwyr mae nifer y marwolaethau yn llawer uwch oherwydd bod Donald Trump wedi bod yn araf i ymateb.

Ond mae Donald Trump wedi mynnu ar Trydar y byddai nifer y marwolaethau 20 gwaith yn uwch oni bai ei fod wedi cymryd y camau a wnaeth i atal lledaeniad y feirws.

Mae o hefyd yn dal i annog taleithiau i ail-ddechrau eu heconomïau yn dilyn misoedd o gyfyngiadau.