Mae’r wefan gymdeithasol Twitter yn annog pobol i wirio’r ffeithio yn negeseuon Donald Trump.

Mae’r rhybudd yn ymwneud â dwy neges am bleidleisio mewn etholiadau, lle mae’n galw pleidleisio trwy’r post yn “dwyllodrus” ac yn darogan y bydd “blychau post yn cael eu dwyn”.

Mae’r rhybudd gan Twitter yn gofyn i bobol wirio’r ffeithiau am bleidleisiau post sydd yn ymddangos mewn straeon newyddion am arlywydd yr Unol Daleithiau.

Daw hyn ar ôl iddo lwyddo i wrthsefyll sawl ymgais blaenorol gan Twitter i’w annog i sicrhau bod yr hyn mae’n ei ddweud yn gywir.

Mae’n aml yn cyhoeddi gwybodaeth gamarweiniol, yn rhoi sïon ar led ac yn sarhau pobol yn agored – a’r cyfan yn groes i reolau Twitter.

Dileu negeseuon am lofruddiaeth

Yn y cyfamser, mae gŵr dynes fu farw yn swyddfa Joe Scarborough, y cyn-Weriniaethwr, yn mynnu y dylai Twitter ddileu negeseuon Donald Trump yn awgrymu bod Joe Scarborough wedi ei llofruddio hi.

Mae Twitter wedi cyhoeddi neges yn difaru’r sylwadau, ond dydyn nhw ddim wedi gweithredu.

Cafwyd hyd i gorff Lori Kaye Klausutis, 28, mewn swyddfa yn Fflorida ar Orffennaf 20, 2001.

Mae Donald Trump wedi ceisio sawl gwaith i dynnu Joe Scarborough i mewn i’r digwyddiad er ei fod e yn Washington ar adeg y digwyddiad.

Mae ysgrifennydd y wasg y Tŷ Gwyn yn parhau i wrthod dweud pam fod Donald Trump yn dal i wneud yr honiadau, gan ladd ar sylwadau Joe Scarborough am y sefyllfa.