Mae cannoedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio ar strydoedd Hong Kong yn erbyn deddfwriaeth diogelwch cenedlaethol ddadleuol.

Mae ymgyrchwyr o blaid democratiaeth wedi beirniadu Tsieina yn hallt am eu cynlluniau i gyflwyno deddf fyddai’n gwahardd gweithredu tros annibyniaeth ac yn groes i’r llywodraeth, yn ogystal ag ymyrraeth o dramor a brawychiaeth.

Maen nhw’n dweud bod y cynllun yn mynd yn groes i’r egwyddor o “un wlad, dwy drefn”.

Fe wnaeth y protestwyr ymgasglu mewn canolfan siopa ac roedden nhw i gyd yn gwisgo dillad du ac yn siantio sloganau megis ‘Safwch gyda Hong Kong’, ‘Rhyddid i Hong Kong’ a ‘Chwyldro ein hoes’.

Cafodd y protestiwr blaenllaw Tam Tak-chi ei arestio yn ystod y brotest am ymgynnull yn anghyfreithlon.

Ond mae’n dweud ei fod e’n rhoi araith am iechyd a’i fod wedi’i eithrio o’r rheolau’n ymwneud ag ymbellháu’n gymdeithasol.

Y ddeddf newydd

Daw’r brotest ddeuddydd ar ôl cyflwyno deddfwriaeth ddadleuol.

Mae disgwyl iddi ddod i rym ddydd Iau (Mai 28), ac fe fyddai’n galluogi Llywodraeth Hong Kong i sefydlu asiantaethau a allai arwain at awdurdodau Tsieina yn arestio pobol am weithgarwch sy’n cael ei ystyried yn arwydd o gefnogaeth i ddemocratiaeth.

Mae Mike Pompeo, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, a Chris Patten, llywodraethwr olaf Hong Kong cyn iddi ennill ei hannibyniaeth, ymhlith y rhai sy’n beirniadu’r cynlluniau.

Mae Chris Patten yn cyhuddo Tsieina o “fradychu” trigolion Hong Kong.