Mae ymchwilwyr yn hawlio eu bod wedi torri’r record ar gyfer defnyddio’r We yn gyflym, wedi iddyn nhw brofi system sy’n gallu lawrlwytho 1,000 o ffilmiau HD mewn llai nag eiliad.

Mae’r criw o brifysgolion Monash, Swinburne ac RMIT yn Awstralia yn dweud eu bod wedi cofnodi cyflymder data o 44.2 terabits yr eiliad.

Yn ôl ymchwilwyr, mae eu gwaith yn rhoi cip ar yr hyn allai cysylltiadau ar y We fod “ymhen dwy neu dair blynedd”.