Mae’r cyfryngau Hwngaraidd wedi cael gwybod am enwau Cymraeg ar lefydd yn y wlad ar ôl i fap Cymraeg ddod i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y map yn dangos enwau holl ddinasoedd y wlad wedi eu newid i enwau Cymraeg.

Cafodd y map ei gyhoeddi gan y ganolfan wybodaeth Gymreig-Hwngari Magyar Cymru, a weithiodd gyda’r rheolwr trenau David Smith i gyfieithu enwau dinasoedd yn Hwngari.

Aeth David Smith, 25 oed, yn feiral ychydig fisoedd yn ôl ar ôl cyfieithu map o enwau gorsafoedd tanddaearol Llundain i’r Gymraeg gyda chymorth ei ffrindiau.

“Rydw i mor falch bod yr enwau lleoedd wnes i eu creu bellach yn cael eu gweld gan filoedd ar draws Hwngari,” meddai David Smith, sy’n wreiddiol o Birmingham.

“Ac rwy’n gobeithio y bydd y map yn ysbrydoli Hwngari i ymweld â Chymru unwaith y maen nhw’n gallu.”

Ychwanegodd Balint Brunner, Golygydd Magyar Cymru:

“Roedden ni am arddangos enwau lleoedd nodweddiadol Cymru a’i hiaith brydferth i bobl Hwngari, fel rhan o’n taith i adeiladu pontydd rhwng y ddau ddiwylliant.”

Enwau

Nid yw David Smith yn siaradwr Cymraeg cynhenid, ond mae wedi bod yn dysgu’r iaith gan ei fod yn aml yn gweithio ar reilffyrdd ucheldir Cymru yn Eryri, lle mae’n cyfarfod yn rheolaidd â gweithwyr a chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.

Bu’n rhaid i David Smith astudio entymoleg pob dinas a thref, gyda pheth cymorth gan Magyar Cymru, ac yna cyfieithu’r rhain i’r Gymraeg i ffurfio enwau oedd yn swnio fel unrhyw enw lle dilys, nodweddiadol yng Ngwynedd neu Geredigion.

Cafodd tref Kaposvár (sy’n golygu Castell y porthmyn) yr enw Casglwyd, tra daeth Szombathely (lle Sadwrn) yn Llesadwrn – y ddau yn gyfieithiadau llythrennol.

Ond, o ystyried cymhlethdod enwau lleoedd Hwngari, roedd Smith weithiau’n gorfod dibynnu ar enwau hanesyddol dinasoedd – yn ogystal â’u henwau mewn ieithoedd eraill – am ysbrydoliaeth.

Roedd Pécs, dinas hanesyddol yn ne Hwngari, yn adnabyddus wrth yr enw Lladin Quinque Ecclee (pum eglwys) yn y canol oesoedd, label sy’n parhau i fyw yn enwau Almaeneg a Slofac y ddinas.

Ysbrydolodd hyn David Smith i awgrymu’r enw Cymraeg Pumllanau.

Roedd enwau newydd eraill yn cynnwys Llanbedwen (Eglwys y Bedw, ar gyfer Nyíregyháza), Llefyw (man byw, ar gyfer Debrecen), a Bwlch-y-gafr (llwybr yr afr, yn cyfeirio at Kecskemét).

Pontio Cymru a Hwngari

Ers dros hanner blwyddyn, mae Magyar Cymru wedi bod yn gweithio i gryfhau cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Hwngari.

Roedd prosiectau diweddar yn cynnwys gweddnewidiad Cymraeg llawn ar gyfer dydd miwsig Cymru, a chyfieithu Calon Lân ar gyfer perfformiad dwyieithog trawiadol gan y canwr gwerin Hwngaraidd Andrea Gerák.