Fe fydd Ethan Ampadu a Rabbi Matondo ymhlith y pêl-droedwyr cyntaf i gamu ar y cae eto ar ôl y coronafeirws, wrth i glybiau’r Almaen ailddechrau yn y Bundesliga heddiw (dydd Sadwrn, Mai 16).

Hon yw’r gynghrair fawr gyntaf i ddechrau ar ôl ymlediad y coronafeirws.

Bydd Schalke, tîm Rabbi Matondo, yn teithio i Dortmund ar gyfer gêm ddarbi fawr, tra bydd tîm Leipzig Ethan Ampadu yn croesawu Freiburg.

Mesurau yn eu lle

Ar ôl seibiant o 66 diwrnod yn sgil y feirws, bydd gemau’n ailddechrau heb dorf ond bydd gemau’n cael eu darlledu ar y teledu.

Mae camau hylendid a phrofi rheolaidd wedi cael eu cynnal cyn i’r tymor ddechrau eto.

Bydd tua 300 o weithwyr allweddol ar ddyletswydd yn y gêm fawr rhwng Dortmund a Schalke.

Bydd pump o eilyddion yn cael dod i’r cae yn lle’r tri arferol.

Mae clwb Dortmund yn dweud bod eu “calonnau’n torri” wrth ddychwelyd heb gefnogwyr, ond byddai buddugoliaeth yn golygu y byddan nhw bwynt yn unig y tu ôl i Bayern Munich ar y brig.

Ond bydd Schalke yn awyddus i ddod â rhediad o saith gêm heb fuddugoliaeth i ben.