Mae’r coronafeirws wedi heintio mwy na 4,200,000 o bobl a lladd dros 287,000, yn ôl ffigurau diweddaraf Prifysgol Johns Hopkins.
Daw’r ffigwr wrth i rai gwledydd lacio’u cyfyngiadau, ond mae rhai gwledydd yn parhau dan warchae llym.
Mae’r sefyllfa’n dal yn ddifrifol iawn yn Asia, gyda Phacistan yn gweld 2,000 o achosion newydd mewn diwrnod am y tro cyntaf ers dechrau’r flwyddyn, ac mae De Corea’n dweud na fyddan nhw’n dychwelyd i warchae er bod nifer yr achosion yn cynyddu eto.
Ym Mhacistan, mae tyrfaoedd yn dechrau ymgasglu mewn marchnadoedd er gwaetha’r mesurau ymbellháu cymdeithasol.
Mae’r rhan fwyaf o achosion newydd yn Ne Corea’n gysylltiedig â chlybiau nos yn y brifddinas Seoul.
Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Kim Gang-lip yn dweud bod angen mwy o amser ar y Llywodraeth i ddadansoddi manylion yr achosion diweddaraf cyn penderfynu a ddylid cynnal canllawiau ymbellháu cymdeithasol mewn lleoliadau hamdden.
Ond mae arwyddion bod y sefyllfa’n gwella yn Tsieina, lle mae saith achos newydd yn unig o’r coronafeirws wedi’u hadrodd.
Mae chwech o’r achosion hynny yn nhalaith Jilin yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Mae 754 o bobl eraill yn cael triniaeth ar gyfer achosion posib neu wedi profi symptomau cadarnhaol ond heb eu dangos, tra bod 104 o bobl yn yr ysbyty yn cael triniaeth.
Ddydd Mawrth, adroddodd y cyfryngau lleol y byddai’r Llywodraeth yn cynnal profion ar bob un o 11m o drigolion Wuhan, y ddinas lle daeth y feirws i’r amlwg am y tro cyntaf ddiwedd y llynedd.
Y Dwyrain Canol a De America
Tra bod Sawdi Arabia’n paratoi ar gyfer gwarchae ar ôl mis sanctaidd Ramadan, mae Mecsico yn paratoi i ddod allan o warchae.
Dywed llywodraeth Saudi Arabia y byddan nhw’n mynd i mewn i warchae yn ystod y dyddiau o ddathlu sy’n dilyn mis y cyfnod sanctaidd Mwslimaidd, ac mae disgwyl i’r cyfnod bara o Fai 23-27.
Mae prif gorff cynghori Mecsico ar y pandemig coronafeirws wedi cyhoeddi canllawiau a fyddai’n caniatáu ailagor gwaith adeiladu, mwyngloddio a gweithgynhyrchu ceir a lorïau.
Dywed y Cyngor Iechyd Cyffredinol eu bod nhw wedi penderfynu dosbarthu’r diwydiannau hynny fel “gweithgareddau hanfodol” sy’n cael parhau i weithio, gyda’r nod o ymladd lledaeniad y coronafeirws.
Dywed y Cyngor hefyd y dylai cyfyngiadau ar ysgolion a busnesau gael eu codi mewn treflannau nad oes ganddyn nhw unrhyw achosion o Covid-19 ac nad oes gan eu treflannau cyfagos unrhyw achosion chwaith.
Seland Newydd
Does dim achosion newydd wedi’u hadrodd yn Seland Newydd heddiw (dydd Mercher, Mai 13), a hynny am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Bydd y rhan fwyaf o fusnesau, gan gynnwys canolfannau siopa, siopau manwerthu a bwytai, yn gallu ailagor.
Bydd rheolau ymbellháu cymdeithasol yn aros yn eu lle a fydd dim modd i fwy na deg o bobol ddod at ei gilydd ar yr un pryd.