“Gofynnwch i Tsieina” oedd ymateb Donald Trump wrth ateb cwestiwn newyddiadurwraig o dras Tsieinïaidd am “gystadleuaeth fyd-eang” honedig wrth gymharu faint o bobol sydd wedi marw yn sgil y coronafeirws ym mhob gwlad.

Fe wnaeth arlywydd yr Unol Daleithiau atal y gynhadledd ddoe (dydd Llun, Mai 11) yn ddisymwth ar ôl cael ei herio gan ohebydd, a dweud wrthi, “Peidiwch â gofyn i mi. Gofynnwch i Tsieina.”

Dyma’i gynhadledd gyntaf ers Ebrill 27.

Yn ystod sesiwn holi ac ateb, gofynnodd Weijia Jiang, gohebydd Tŷ Gwyn CBS News, pam ei fod yn aml yn pwysleisio bod yr Unol Daleithiau yn gwneud yn well na’r un wlad arall pan ddaw i brofi.

“Pam mae hynny’n bwysig?” holodd Weijia Jiang.

“Pam fod hyn yn gystadleuaeth fyd-eang i chi os yw Americanwyr bob dydd yn dal i golli eu bywydau ac rydym yn dal i weld mwy o achosion bob dydd?”

“Wel, mae’n nhw’n colli eu bywydau ymhobman yn y byd,” atebodd Donald Trump.

“Efallai fod hynny’n gwestiwn y dylech chi ofyn i Tsieina. Peidiwch â gofyn i mi.

“Gofynnwch y cwestiwn hwnnw i Tsieina.

“Pan fyddwch yn gofyn y cwestiwn hwnnw i Tsieina efallai y cewch ateb anarferol iawn.”

Yna, galwodd yr Arlywydd ar ohebydd arall, Kaitlan Collins o CNN, ond fe wnaeth hi oedi wrth i Weijia Jiang dorri ar ei thraws.

“Syr, pam ydych chi’n dweud hynny wrtha i yn benodol?”

Atebodd Donald Trump, “Dydw i ddim yn ei ddweud yn benodol wrth neb. Dwi’n ei ddweud wrth unrhyw un a fyddai’n gofyn cwestiwn cas fel ‘na. ”

“Nid cwestiwn cas ‘mo hynny,” nododd y gohebydd CBS, Weijia Jiang.

Ceisio symud y gynhadledd yn ei blaen

Yna, ceisiodd Kaitlan Collins o CNN, ofyn ei chwestiwn hithau, ond dywedodd Donald Trump ei fod bellach yn edrych at rywun yn y cefn.

Wrth i Kaitlan Collins wrthwynebu dro ar ôl tro, trodd yr Arlywydd Donald Trump ar ei sawdl a gadawodd y podiwm.

Mae Donald Trump wedi cael ei feirniadu’n aml am fabwysiadu agwedd arbennig o hallt neu nawddoglyd mewn cynadleddau i’r wasg tuag at fenywod yn gyffredinol, a thuag at ferched o dras arall yn arbennig.

Cafodd Weijia Jiang ei geni yn Tsieina, ond symudodd i’r Unol Daleithiau yn ddwy oed.

Aeth Tara Setmayer, sylwebydd gwleidyddol, yn ei blaen i drydar am “strancio gwarthus, hiliol arall gan Trump oherwydd gofynnwyd cwestiwn uniongyrchol iddo gan Weijia … all Trump ddim delio â menywod deallus, cadarn”.

Mae’r Democrat Ted Lieu hefyd wedi beirniadu Donald Trump.

“Annwyl DonaldTrump: Americanwyr yw Americanwyr Asiaidd,” meddai ar Twitter.

“Bu rhai ohonom yn gwasanaethu ar ddyletswydd weithredol yn lluoedd arfog yr Unol Daleithiau.

“Mae rhai ar y rheng flaen yn ymladd y pandemig hwn fel parafeddygon a gweithwyr gofal iechyd.

“Mae rhai yn ohebwyr fel Weijia. Rho’r gorau i rannu ein cenedl.”