Mae o leiaf 227 o fudwyr wedi glanio ym Mhrydain yn ystod ddoe a heddiw.

Roedd bron i 150 wedi croesi’r Sianel i Dover ddoe, gan gynnwys 51 ar fwrdd un cwch chwyddadwy.

Yn ôl un elusen ddyngarol, dyw’n ddim syndod fod cymaint yn peryglu eu bywydau oherwydd yr amodau dychrynllyd yng ngwersylloedd ffoaduriaid Ffrainc.

Cafodd 82 yn rhagor o fudwyr eu dal heddiw, y rhan fwyaf ohonyn nhw ar gychod chwyddadwy.

Ers cyhoeddi’r ‘lockdown’ ym Mhrydain ar 23 Mawrth, mae o leiaf 836 o fudwyr wedi cael eu dal gan yr awdurdodau.