Mae’r Eidal yn paratoi i lacio cyfyngiadau’r coronafeirws – er i 474 o farwolaethau gael eu cofnodi ddoe (dydd Sadwrn, Mai 2).

Dyma’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn y wlad ers 11 o ddiwrnodau, ond mae nifer y bobol sy’n goroesi wedi cyrraedd y gyfradd isaf ers pythefnos.

 

Ond roedd 212 o bobol yn llai mewn ysbytai hyd at ddoe, a 39 yn llai mewn unedau gofal dwys.

 

Mae’r llywodraeth bellach yn hyderus y gallan nhw ymdopi gyda’r gyfradd bresennol, ac maen nhw wedi rhoi’r hawl i unigolion symud ychydig yn fwy o amgylch trefi a dinasoedd lle maen nhw’n byw.

Mae 28,710 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i’r feirws yn yr Eidal – yr ail nifer fwyaf mewn unrhyw wlad.