Mae Iwerddon wedi cyhoeddi pum cam er mwyn dechrau llacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn ôl Paschal Donohoe, y Gweinidog Cyllid, bwriad y camau yw “lleihau niwed” y pandemig.

Fel rhan o’r camau, bydd busnesau bach yn gallu gwneud cais am grant gwerth 10,000 Ewro yn seiliedig ar gyfanswm eu cyfraddau busnes y llynedd.

Fydd dim rhaid i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws dalu cyfraddau busnes llawn, gan fanteisio ar gyfradd fasnachol am dri mis.

Bydd cronfa gwerth 2bn Ewro yn cael ei sefydlu er mwyn adfer busnesau, a bydd Cynllun Gwarantu Credyd gwerth 2bn Ewro ar gael i fusnesau bach gael benthyg arian am gyfnod o dri mis i chwe blynedd, a hynny islaw cyfraddau llog y farchnad.

Fydd dim camau ad-dalu trethi’n cael eu cymryd yn erbyn busnesau am flwyddyn, a fydd dim llog ar ddyledion yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol fydd gwneud yn iawn am golledion ariannol wrth i fusnesau gael rhyddhad cyfraddau.

Barn y llywodraeth

Mae Llywodraeth Iwerddon wedi bod yn amlinellu pam fod y camau hyn wedi cael eu cyflwyno.

“Mae ein hiechyd cyhoeddus torfol wedi cael ei dargedu,” meddai Paschal Donohoe.

“Mae ein busnesau a’n heconomi’n wynebu baich na ellir ei dychmygu.

“Ac mae ein cymdeithas yn amgyffred â’r realiti newydd yma.

“Ond drwy gydweithio, rydyn ni’n lleihau’r niwed.

“Yn ogystal â’r mesurau gafodd eu cyflwyno gan y llywodraeth, mae’r gyfres hon o fesurau sydd wedi’u hamlinellu heddiw wedi’u cynllunio er mwyn adeiladu hyder, helpu busnesau ymhellach yn nhermau rheoli eu cwmnïau, a’u galluogi nhw i gael dechrau edrych tua’r dyfodol a dechrau ar y llwybr ar gyfer yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

“Byddwn yn parhau i geisio’r ffyrdd orau o gefnogi ein pobol, a’r gymdeithas ehangach, ac ailadeiladu ein heconomi fel y gallwn ni gael pobol yn ôl wrth eu gwaith yn ddiogel.

“Byddwn ni’n gwneud hyn drwy fod yn ymwybodol o gyngor iechyd cyhoeddus swyddogol a gwneud yr hyn sydd er lles ein holl bobol.”