Mae nifer o wledydd wedi dechrau llacio cyfyngiadau’r coronafeirws ar ôl gweld gostyngiad yn nifer yr achosion dyddiol.

Ond mae’r patrwm i’r gwrthwyneb yn Rwsia, lle digwyddodd y cynnydd dyddiol mwyaf ers dechrau’r ymlediad, gyda 7,933 o achosion newydd wedi’u hadrodd.

Mae 114,431 o achosion wedi’u cadarnhau yn y wlad erbyn hyn, ond nid pawb sy’n cael eu profi ac mae lle i gredu nad yw’r profion ond yn 70-80% yn gywir.

Mae achosion o niwmonia hefyd ar gynnydd yn y wlad, ac mae nifer o weinidogion y llywodraeth, gan gynnwys y prif weinidog Mikhail Mishustin wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Roedd un achos newydd yn Tsieina yn ôl y ffigurau diweddaraf, ac mae gweithwyr ffatrïoedd a busnesau eraill wedi cael dychwelyd i’r gwaith, a phobol yn cael teithio i rai llefydd ar gyfer twristiaid.

Yn yr Unol Daleithiau, mae mwy na 64,000 o bobol wedi marw, ond mae’r Arlywydd Donald Trump yn dal yn gobeithio cadw’r nifer yn is na 100,000 er ei fod yn cydnabod fod y ffigwr hwnnw’n “ofnadwy”.

Llacio cyfyngiadau

Mae mwy nag 20,000 o bobol hefyd wedi marw yn yr Eidal, gwledydd Prydain, Ffrainc a Sbaen, ac mae arbenigwyr y gwledydd hynny’n rhybuddio am ail don o’r feirws oni bai bod rhagor o brofion yn cael eu cynnal.

Serch hynny, mae cynlluniau ar y gweill i agor ffatrïoedd, swyddfeydd, busnesau eraill, eglwysi a rhai cyfleusterau cyhoeddus dros gyfnod o amser ac o dan reoliadau llym.

Mae Tsieina hefyd wedi dileu rheoliadau oedd yn cadw 800m o bobol yn gaeth i’w cartrefi, ond maen nhw wedi cyflwyno profion tymheredd a dulliau eraill o fonitro iechyd pobol.

Mae 82,875 o achosion wedi’u cadarnhau yn Tsieina, tra bod 4,633 o bobol wedi marw.

Sbaen

Yn ôl y papur newydd El País yn Sbaen, mae pobol wedi cael mynd allan i’r strydoedd am ymarfer corff am y tro cyntaf ers 48 o ddiwrnodau.

Fel rhan o lacio’r cyfyngiadau, gall pobol rhwng 14 a 70 oed fynd allan i gerdded neu seiclo rhwng 6yb a 10yb.

Ond does ganddyn nhw ddim hawl i gerdded ymhellach na chilomedr o’u cartrefi, ac mae’n rhaid iddyn nhw aros o fewn eu hardal leol i seiclo neu loncian.

Ond does dim rhaid i bobol sy’n byw mewn ardaloedd â llai na 5,000 o drigolion gadw at amserlen ar gyfer eu gweithgareddau.