Mae’r Taoiseach Leo Varadkar wedi dweud bod yn rhaid ystyried yr effaith economaidd os yw’r llywodraeth nesaf am dorri allyriadau carbon.

Roedd yn siarad wedi i’r Blaid Werdd fynnu addewid y bydd allyriadau carbon yn cael eu torri 7% os byddan nhw’n ffurfio clymblaid gyda Fianna Fail a Fine Gael.

Mae’r ddwy blaid wedi anfon fframwaith i nifer o bleidiau bychan i geisio eu perswadio i ffurfio llywodraeth glymbleidiol.

Nos Iau (Ebrill 23) anfonodd y pleidiau lythyr ar y cyd i’r Gwyrddion oedd yn mynd i’r afael â’r 16 pwynt roedd y blaid wedi eu codi wythnos diwethaf ynglŷn â ffurfio clymblaid.

“Mae’r Blaid Werdd yn cyfarfod heddiw i drafod eu hymateb i ein llythyr,” meddai Leo Varadkar yn Nulyn ddydd Mercher (Ebrill 29).

“Maent wedi gosod targed o 7%, sydd yn hynod uchelgeisiol ac rydym yn derbyn bod angen i ni fod yn uchelgeisiol ynglŷn â newid hinsawdd.

“Byddai gennym ddiddordeb mewn trafod sut y gallwn gyflawni targedau mwy uchelgeisiol na’r rhai presennol ac o bosib y targed o 7%.”

Cefndir

Mae Fianna Fail a Fine Gael wedi bod mewn trafodaethau i ffurfio llywodraeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar Chwefror 8 lle nad oedd plaid fwyafrifol.

Enillodd Fianna Fail 38 o seddi tra’r oedd Sinn Feinn ar 36 ac enillodd Fine Gael 35.

Mae’r Blaid Werdd efo 12 o seddi tra bod y Blaid Lafur a’r Democratiaid Cymdeithasol ar 6

Er i Fianna Fail golli 8 sedd â Fine Gael wedi colli 12, mae’r ddwy blaid wedi gwrthod cynnal trafodaethau gyda Sinn Feinn, a enillodd 15 sedd gan ei gwneud hi’r ail blaid fwyaf yn Iwerddon.

Mae angen 80 seddi i ffurfio llywodraeth fwyafrifol yn Iwerddon, ac ar y cyd mae gan Fianna Fail a Fine Gael 73.

Gyda 12 sedd, y Blaid Werdd yw’r unig blaid all ymuno i ffurfio llywodraeth fwyafrifol heb orfod dibynnu ar aelodau annibynnol, y blaid Lafur neu’r Democratiaid Cymdeithasol.