Mae Quim Torra, arweinydd Catalwnia, yn rhybuddio pobol i “ddilyn y cyfarwyddiadau” ar ôl i Lywodraeth Sbaen lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Fel rhan o’r llacio, gall plant fynd allan am y tro cyntaf ers chwe wythnos ar ôl i Sbaen gofnodi’r ail nifer fwyaf o farwolaethau yn sgil y feirws yn unrhyw le yn y byd.

Yn ôl Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, “pwyll piau hi” wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol dros gyfnod o wythnosau.

Fel rhan o’r llacio, bydd hawl gan bobol adael eu cartrefi a mynd am dro am gyfnod byr o Fai 2 ymlaen.

Cyn hynny, dim ond ar gyfer siopa angenrheidiol a gwaith lle nad yw’n bosib gweithio o adref y gall pobol fynd allan.

Tan nawr, fe fu’n rhaid i blant dan 14 oed aros gartref ond roedd ganddyn nhw’r hawl i fynd am dro am hyd at awr yng nghwmni un rhiant – a hynny o fewn pellter o un cilomedr o’u cartrefi.

Hefyd, maen nhw ond yn cael mynd ag un tegan gyda nhw, a does dim hawl ganddyn nhw chwarae â phlant eraill.

Mae disgwyl i Pedro Sanchez gyhoeddi cynllun llacio ddydd Mawrth (Ebrill 28).

Ymateb arweinydd Catalwnia

Wrth ymateb, mae Quim Torra, arweinydd Catalwnia, yn dweud ar Twitter ei fod yn “gofidio” am adroddiadau bod “bechgyn a merched allan ar y strydoedd”.

“Dw i yng nghyfarfod yr arlywyddion, ond dw i’n derbyn sylwadau pryderus am fechgyn a merched yn mynd allan ar y strydoedd,” meddai.

“Rydyn ni ar wyliadwraeth uchel ac mae’n rhaid cymryd rhagofalon eithafol.

“Mygydau a phellter diogel ac osgoi grwpiau.

“Mae iechyd pawb yn y fantol. Dilynwch yr argymhellion.”