Tarddiad yr achos gwaethaf o saethu erioed yng Nghanada oedd ffrae rhwng y saethwr a’i gariad, yn ôl yr heddlu yno.

Ond er i Gabriel Wortman saethu o leiaf 22 o bobl yn farw mewn gwahanol leoliadau yn nhalaith wledig Nova Scotia, nid oedd ei gariad ymysg ei dargedau.

Cafodd y dihiryn ei saethu’n farw fore dydd Sul (Ebrill 19), rhyw 13 awr ar ôl iddo gychwyn lladd pobol.

Dywed yr heddlu fod Gabriel Wortman wedi treulio’r rhan fwyaf o’r amser y bu’n saethu pobol wedi gwisgo fel heddwas, gan deithio mewn cerbyd a oedd wedi cael ei addasu i edrych fel car heddlu.

Saethodd bobl yn eu cartrefi cyn mynd ati i losgi tai yn nhref Portapique.

Ymosod ar ddyn yn 2001

Roedd Gabriel Wortman yn berchen ar ddeintyddfa, Atlantic Denture Clinic, a oedd wedi bod ar gau am fisoedd yn sgil y pandemig coronafeirws.

Dywedodd yr awdurdodau i ddechrau nad oedd ganddo gofnod troseddol, cyn i wybodaeth ddod i’r amlwg yn profi ei fod wedi torri’r gyfraith o leiaf unwaith.

Mae dogfennau llys Nova Scotia yn dangos ei fod wedi derbyn gorchymyn i dderbyn sesiynau cwnsela rheoli tymer ar ôl pledio’n euog i ymosod ar ddyn ar Hydref 29 2001.