Mae o leiaf 16 o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i ddyn 51 oed saethu atyn nhw yn Nova Scotia, meddai’r heddlu yng Nghanada.

Dyma’r achos gwaethaf o saethu yn hanes y wlad.

Roedd y dyn, sydd wedi cael ei adnabod fel Gabriel Wortman, wedi ei wisgo fel swyddog yr heddlu ac wedi addasu ei gar fel ei fod yn ymddangos fel cerbyd yr heddlu.

Cafodd ei arestio mewn gorsaf betrol gan Heddlu Canada yn Enfield, i’r gogledd orllewin o Halifax yn Nova Scotia. Cyhoeddodd yr heddlu yn ddiweddarach ei fod wedi marw.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu mai un dyn oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau a’i fod wedi teithio ar hyd y dalaith gan danio gwn at bobl.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o bobl sydd wedi’u lladd na beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.

Mae plismon ymhlith y rhai sydd wedi’u lladd a chafodd swyddog arall ei anafu.

Dywedodd yr heddlu y byddan nhw’n ymchwilio i geisio darganfod a oedd y digwyddiad yn gysylltiedig a pandemig y coronafeirws.

Fe ddechreuodd yr ymosodiad yn nhref fechan Portapique, gyda’r heddlu’n cynghori pobl i gloi eu hunain yn eu cartrefi. Daeth yr heddlu o hyd i nifer o bobl oedd wedi’u saethu’n farw y tu mewn a thu allan i’r cartref lle digwyddodd yr ymosodiad.

Roedd nifer o strwythurau wedi eu rhoi ar dan yn yr ardal hefyd.