Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn mynnu bod llai o Americanwyr wedi marw na Tsieinïaid wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws – er bod tystiolaeth yn profi’r gwrthwyneb.

Mae gan Tsieina boblogaeth sydd bedair gwaith yn fwy na’r Unol Daleithiau, ond mae 4,600 o Tsieinïaid wedi marw o gymharu â 32,000 o Americanwyr.

“Nid ni sydd â’r nifer fwyaf yn y byd,” meddai Donald Trump wrth y wasg yn y Tŷ Gwyn.

“Rhaid mai Tsieina sydd â’r nifer fwyaf yn y byd. Mae’n wlad enfawr.

“Mae hi wedi mynd trwy broblem enfawr, problem enfawr.

“Ac mae’n rhaid mai nhw sydd â’r nifer fwyaf.”

Amheuaeth

Ond y gwir yw ei bod hi’n anodd dweud beth yw’r sefyllfa mewn gwirionedd.

Mae’r Unol Daleithiau a Tsieina wedi bod yn trin a thrafod yr ystadegau mewn ffyrdd sy’n ffafriol iddyn nhw eu hunain, a dydy’r union ffigurau ddim yn hysbys.

Roedd Donald Trump yn honni ddoe (dydd Gwener, Ebrill 17) fod nifer y bobol sydd wedi marw yn Tsieina wedi dyblu, ond dydy hynny ddim yn wir.

Ac mae nifer y meirw yn yr Unol Daleithiau saith gwaith yn fwy na Tsieina, yn ôl ffigurau diweddaraf Prifysgol John Hopkins.

Er mwyn i honiadau Donald Trump fod yn gywir, byddai’n rhaid bod Tsieina yn cuddio nifer fawr iawn o farwolaethau a byddai’n rhaid i nifer marwolaethau’r Unol Daleithiau leihau’n sylweddol.

Mae gwyddonwyr ar hyn o bryd yn darogan y gallai 140,000 o bobol fod wedi marw yn yr Unol Daleithiau erbyn mis Awst, ac mae hynny’n cymryd yn ganiataol y bydd pobol yn gwrando ar gyngor i ymbellháu’n gymdeithasol.