Mae Mary Lou McDonald, llywydd Sinn Fein, yn dweud iddi brofi’n bositif am y coronafeirws ar ôl cael prawf ar Fawrth 28.

Dywed ei bod wedi teimlo’n “hynod sâl” am wythnosau, a bod ei hadferiad wedi cael ei arafu ar ôl iddi gael pliwrisi.

Mae hi’n bwriadu dychwelyd i’w gwaith erbyn dydd Llun nesaf (Ebrill 20).

“Mae fy meddyliau a’m cefnogaeth gyda phawb sydd yn sâl ar hyn o bryd, ac rwy’n ddiolchgar i’r doctoriaid, nyrsys, gofalwyr a phawb sydd yn edrych ar ein holau,” meddai.

“Diolch i bawb sydd wedi holi amdanaf ac anfon dymuniadau da.

“Dwi’n gwerthfawrogi eich caredigrwydd a byddai’n ôl wythnos nesaf.”