Y bardd a’r ymgyrchwr sosialaidd
Michael D. Higgins
Michael D Higgins, sy’n aelod o’r Blaid Lafur, fydd nawfed Arlywydd Iwerddon yn dilyn cefnogaeth yr helyw o’r etholwyr.

Er bod y cyfri yn parhau, roedd yn amlwg o fewn awr i’r cyfrif gychwyn mai Michael D Higgins oedd am gario’r dydd a hynny ar draul y ffefryn annibynnol Sean Gallagher ddaeth yn ail. Roedd Martin McGuiness o Sinn Fein yn drydydd a Gay Mitchell o Fine Gael yn bedwerydd.

Mae gweddill yr ymgeiswyr eisoes wedi datgan eu bod yn derbyn mai ef sydd wedi cario’r dydd.

Mae’r darpar Arlywydd yn 70 oed ac yn disgrifio ei hun fel darlithydd a bardd. Bu’n aelod o’r Dail am ddwy flynedd yn cynrychioli y Blaid Lafur yn 1981 ac yn Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant a’r Gaeltacht yn ystod y nawdegau gan fod yn bennaf gyfrifol am sefydlu’r orsaf deledu Wyddeleg Telefis Na Gaelige.

Dywedodd Fergus Finlay, cyn strategydd ar ran y blaid Lafur y bydd cyfnod ei arlywyddiaeth yn siwr o gael ei gofio am fod yn gyfnod o wedduster sy’n cyd-fynd efo’i slogan etholiadol sef “Yr Arlywydd fydd yn ennyn balchder”.