Tra bod 517 o farwolaethau newydd wedi’u cofnodi yn Sbaen, mae nifer y bobol sydd wedi’u heintio â’r coronafeirws yn y wlad wedi gostwng i’w lefel isaf ers tair wythnos.

Mae 3,500 o achosion newydd wedi’u cofnodi.

Mae’n golygu bod 17,489 o bobol bellach wedi marw yn y wlad, a 169,496 o bobol wedi’u heintio.

Mae adeiladwyr a gweithwyr diwydiannau trwm wedi cael dychwelyd i’r gwaith heddiw (dydd Llun, Ebrill 13), ond mae pawb arall dan warchae o hyd.

Mae disgwyl i siopau aros ynghau os nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol, ac mae’r llywodraeth yn annog pobol i weithio o adref o hyd.

Yn ôl gwleidyddion, mae’n rhy gynnar eto i lacio unrhyw gyfyngiadau.