Mae rhannau o Affrica’n cael eu taro gan y pla gwaethaf o locustiaid ers 70 mlynedd.

Mae biliynau o locustiaid ifanc yn heidio o Somalia, lle maen nhw’n magu, yn chwilio am dyfiant newydd sy’n cychwyn ymddangos yn sgil y glaw tymhorol.

Mae miliynau o dlodion bregus mewn perygl. Wrth iddyn nhw ddod at ei gilydd i geisio ymladd yn erbyn y locustiaid, yn aml yn ofer, maen nhw mewn perygl o ledaenu’r Covid-19.

Gall difodiant cnwd casafa mewn gardd olygu newyn i’r teulu hwnnw.

Ymysg y gwledydd sydd wedi cael eu taro gan y pla mae Kenya, Ethiopia, De Sudan ac Uganda.