Does neb wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yn Tsieina yn ystod y 24 awr diwethaf, ond mae 32 o achosion newydd ar ôl i bobol ddychwelyd i’r wlad o dramor.

Mae 3,331 o bobol wedi marw yno ers i’r pandemig ddechrau, gyda chyfanswm o 81,740 o achosion wedi’u cofrestru.

Mae’r awdurdodau’n monitro 12 achos arall, ynghyd â 30 o achosion posib lle nad oes gan bobol symptomau.

Mae 1,242 o bobol yn derbyn triniaeth ar ôl cael diagnosis ac mae 1,033 o achosion heb symptomau dan oruchwyliaeth.