Mae’r Uchel Lys yn Awstralia wedi cael prif gardinal y wlad yn ddieuog o droseddau rhyw, 13 mis ar ôl iddo gael ei garcharu.

Cafwyd e’n euog bryd hynny o ymosod yn rhywiol ar ddau fachgen 13 oed mewn eglwys gadeiriol yn ninas Melbourne yn 1996 pan oedd e’n Archesgob.

 

Mae’n dweud iddo ddioddef “anghyfiawnder difrifol” ar ôl i lys ei gael yn euog o ymosod yn anweddus ar un o’r bechgyn yn 1997.

 

Yn dilyn yr apêl, mae’n dweud nad yw’n “dymuno unrhyw ddrwg” i’r rhai oedd wedi ei gyhuddo o’r troseddau.

Roedd ei gyfreithwyr yn dadlau bod digon o amheuaeth am y troseddau i’w gael e’n ddieuog.