Mae bron i 4,200 o bobol wedi marw yn nhalaith Efrog Newydd wrth i Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ddweud fod y wlad yn “dechrau gweld goleuni ar ddiwedd y twnnel.”

Fodd bynnag, dywed yr awdurdodau fod yna lygedyn bach o obaith bod twf yn nifer yr achosion yn arafu.

Roedd gostyngiad bychan yn nifer y marwolaethau ddydd Sul (Ebrill 5), gyda 594 o farwolaethau o’i gymharu â 630 ddydd Sadwrn (Ebrill 4).

Fodd bynnag, dywedodd llywodraethwr y dalaith, Andre Cuomo wrth ohebwyr ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud a oedd y pandemig wedi cyrraedd ei anterth gan annog trigolion Efrog Newydd i fod yn wyliadwrus.

Yn ddiweddarach, dywedodd Donald Trump fod yr Unol Daleithiau yn agosáu at “gyfnod erchyll” yn y pandemig.

“Dwi’n meddwl ein bod i gyd yn ymwybodol fod yn rhaid i ni gyrraedd cyfnod penodol – ac mae hwnnw yn mynd i fod yn gyfnod erchyll yn nhermau marwolaethau – ond mae hefyd yn gyfnod lle mae pethau yn mynd i ddechrau newid,” meddai.

“Rydym yn agosáu at y lefel yna nawr.”

Tra bod y dirprwy-Arlywydd Mike Pence wedi dweud: “Rydym yn dechrau gweld llygedyn o welliant.”