Mae’r Pab Ffransis yn cynnal sawl digwyddiad heb gynulleidfa fyw ar ddechrau’r Wythnos Sanctaidd.
Bydd nifer o seremonïau’n cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caëedig yr wythnos hon yn Basilica San Pedr o ganlyniad i’r coronafeirws, ond byddai degau o filoedd o bobol fel arfer yn bresennol.
Dim ond ychydig o wahoddedigion sy’n cael mynd i’r digwyddiadau, ac maen nhw’n cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol.
Mae saith o bobol wedi’u heintio â’r feirws yn y Fatican ar hyn o bryd.