Mae’r pêl-droediwr Aleksandar Prijovic wedi cael ei arestio ar ôl anwybyddu cyrffiw’r wlad yn sgil y coronafeirws.

Roedd e ymhlith ugain o bobol oeddi wedi ymgynnull mewn gwesty yn ninas Belgrade, yn groes i reolau sy’n atal pobol rhag dod ynghyd rhwng 5 o’r gloch y prynhawn a 5 o’r gloch y bore.

Mae’r dyn 29 oed yn chwarae i glwb Al Ittihad yn Sawdi Arabia, a fe yw’r ail bêl-droediwr o Serbia i anwybyddu’r cyrffiw.

Aeth Luka Jovic, sy’n chwarae i Real Madrid, i barti pen-blwydd ei gariad mewn caffi yn Belgrade fis diwethaf.

Gall unrhyw un sy’n anwybyddu’r cyrffiw gael dirwy sylweddol neu hyd at dair blynedd o garchar.