Mae llong bleser, lle mae pedwar o bobl wedi marw o’r coronafeirws, wedi cyrraedd porthladd yn Florida, ar ôl i’r awdurdodau wrthod rhoi caniatâd iddi angori yno yn gynharach yn yr wythnos.

Mae 200 o bobl o Brydain ar fwrdd y llong Zaandam lle mae naw o achosion o Covid-19 wedi cael eu cofnodi yn ogystal â thua 200 o bobl sydd â symptomau tebyg i ffliw.

Roedd dyn 75 oed o Brydain ymhlith y pedwar sydd wedi marw ar fwrdd y llong.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd teithwyr oedd yn iach wedi cael gadael y llong i fynd ar long arall, y Rotterdam, sydd hefyd wedi cael caniatâd i angori yn y porthladd.

Dywedodd y cwmni sy’n berchen y llongau, Holland America, y bydd gwesteion yn cael eu sgrinio ar ôl cyrraedd yn Port Everglades.

Mae disgwyl i bawb allu gadael y llongau erbyn nos Wener (Ebrill 3) gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i’r rhai sydd angen gofal brys.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda Holland America Line er mwyn cwblhau’r trefniadau i ganiatáu i ddinasyddion o Brydain gael dychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl yr Arlywydd Donald Trump mae trefniadau wedi cael eu gwneud gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gludo pobl o Brydain yn ôl adre.

Roedd y llongau wedi ceisio angori yn Florida yn gynharach yn yr wythnos ond fe fu gwrthdaro gyda’r awdurdodau yno oedd yn anfodlon derbyn rhagor o gleifion gan fod y system gofal iechyd yno eisoes dan bwysau oherwydd y pandemig.