Mae trefnwyr Gŵyl Ryng-geltaidd Lorient yn Llydaw, yr ŵyl werin sy’n cyd-daro â’r Eisteddfod Genedlaethol, am barhau gyda’u trefniadau eleni.

Dywed y trefnwyr bod eu tîm yn ad-drefnu ac yn “gweithio’n galed nawr tuag at y 50fed ŵyl” rhwng Awst 7 a 16. Blwyddyn Llydaw yw 2020, a’i thro hi fydd cynnal cyngerdd agoriadol.

“Rydyn ni’n estyn ein cefnogaeth i’r holl wyliau a gweithgareddau diwylliannol y bu’n rhaid eu canslo ac a gosbodd yr artistiaid, cynhyrchwyr, technegwyr ac ati yn ddifrifol, yn ogystal â’r holl broffesiynau creadigol a diwylliannol,” meddai datganiad yr ŵyl. “Heb anghofio’r gwirfoddolwyr y mae eu buddsoddiad personol, eu hymdrech a’u hangerdd yn cyfrannu’n fawr at gadw’r diwylliant yn fyw. Mae Gŵyl Ryng-geltaidd Lorient (ei Lywydd, ei Gyfarwyddwr, ei Fwrdd Cyfarwyddwyr, ei staff parhaol a’r 1,700 o wirfoddolwyr) yn ofalus iawn ac nid yw’n bychanu’r sefyllfa bresennol ond mae’n parhau i fod yn hyderus.’

Mae’r ŵyl wastad yn denu perfformwyr gwerin o Gymru i berfformio yno. Y llynedd, diolch i nawdd y Cyngor y Celfyddydau, teithiodd yr artistiaid yma draw i’r ŵyl: The Trials of Cato, NoGood Boyo, Gwen Màiri a Chôr Meibion Dyffryn Aber, Ofelia, Lowri Evans a Lee Mason, Sera, VRï, Kizzy Crawford, ac Avanc.