Yn sgil y coronafeirws, mae gwledydd ar draws y byd yn cyhoeddi mesurau llym wrth i siopau nad ydyn nhw’n gwerth nwyddau hanfodol yn cau eu drysau.

Yng ngwledydd Prydain, mae’r prif weinidog Boris Johnson yn cynghori pobol i fynd i siopa “cyn lleied â phosib” a dim ond ar gyfer “nwyddau hanfodol”.

Y rhai sydd wedi’u heithrio o’r gorchymyn i gau eu drysau yw gwerthwyr bwyd, fferyllfeydd, siop fach y gornel, gorsafoedd petrol, siopau mewn ysbytai, swyddfa’r post, banciau, siopau sy’n gwerthu papurau newydd, golchdai a siopau bwyd anifeiliaid.

Yr wythnos hon, ceisiodd cwmni Sports Direct ddadlau eu bod nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth hanfodol, ond fe fu’n rhaid iddyn nhw hefyd gau eu drysau.

Mae’r un math o siopau, ar y cyfan, yn cael aros ar agor ym mhob cwr o’r byd, ond mae rhai amrywiadau yn awgrymu sut mae arferion a diwylliannau’n wahanol o un wlad i’r llall.

Beth sy’n hanfodol?

Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae rhai taleithiau’n dal i ganiatáu gwerthu offer golff, dryllau, a hyd yn oed mariwana yng Nghaliffornia a Washington.

Mae’r Unol Daleithiau ac India, ill dwy, yn nodi hefyd fod cyfarpar technoleg yn hanfodol, yn enwedig wrth i bobol fod yn gaeth i’w cartrefi yn sgil mesurau llym.

Mae modd gwerthu dryllau o hyd yn Connecticut a Tecsas, wrth i lywodraethwyr ddadlau bod rhaid i bobol allu amddiffyn eu hunain.

Yn Arizona, mae cyrsiau golff yn gyfleusterau hanfodol wrth i bobol gael eu hannog i wneud ymarfer corff.

Yn New Hampshire, mae blodau’n nwyddau hanfodol wrth i angladdau barhau i gael eu cynnal.

Yn Ewrop, mae’r Eidal wedi cyflwyno mesurau llym wrth gau popeth ond am siopau bwyd a fferyllfeydd ond fe fydd ffatrïoedd sy’n creu nwyddau meddygol hefyd yn cael aros ar agor i weithwyr.

 

Mae’r un yn wir hefyd am Tsieina.

 

Yn Ffrainc, mae danteithion crwst, caws a gwin yn cael eu hystyried yn nwyddau hanfodol.

 

Gall pobol yn Israel ymgynnull mewn grwpiau o hyd at ddeg er mwyn gweddïo ond mae’n rhaid iddyn nhw aros ddwy fetr oddi wrth ei gilydd.