Mae cyfyngiadau newydd a llym wedi dod i rym ers hanner nos neithiwr yn Iwerddon mewn ymgais i atal lledaeniad y coronafeirws yn y wlad.

Am y pythefnos nesaf, rhaid i bobl aros adref, gyda gwaharddiad ar deithio ymhellach na 2 cilometr o’u cartrefi, ar wahân i ychydig o eithriadau.
Fe fydd pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau hanfodol yn cael hawl i deithio i’r gwaith, fe fydd pobl yn cael gadael eu cartref i siopa am fwyd, ac fe fyddan nhw’n cael mynd allan i ymarfer corff o fewn 2 cilometr i’w cartrefi.

Cafodd y mesurau eu cyhoeddi gan y Taoiseach Leo Varadkar neithiwr.

Fe fydd unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus neu breifat hefyd – o unrhyw nifer o bobl – yn cael eu gwahardd.