Mae Gemau Olympaidd a Paralympaidd Tokyo 2020 wedi cael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf yn sgil y pendemig coronafeirws.

Cafodd y newydd anochel ei gadarnhau mewn datganiad ar y cyd gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a pwyllgor Trefnwyr Gemau Tokyo.

Ni fydd y Gemau a oedd i fod i gychwyn ar 24 Gorffennaf yn digwydd yn eleni bellach, ond fe fyddan nhw’n digwydd rywbryd cyn diwedd haf 2021.

“Mae Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a Phrif Weinidog Japan wedi dod i’r casgliad bod yn rhaid ail-drefnu Gemau’r XXXII Olympiad yn Tokyo er mwyn diogelu iechyd athletwyr, pawb sy’n ymwneud â’r gemau a’r gymuned ryngwladol,” meddai’r datganiad.

“Mae’r arweinwyr wedi cytuno y gallai Gemau Olympaidd Tokyo sefyll fel llusern o obaith i’r byd yn ystod yr adegau cythryblus hyn ac y gallai’r fflam Olympaidd ddod y goleuni ar ddiwedd y twnel mae’r byd ynddo ar hyn o bryd.

“Cytunwyd felly y bydd y fflam Olympaidd yn aros yn Japan. Cytunwyd hefyd y bydd y Gemau’n cadw’r enw Gemau Olympaidd a Paralympaidd Tokyo 2020.”