Mae swyddogion Canada wedi penderfynu peidio anfon eu hathletwyr i’r Gemau Olympaidd yn Tokyo, ac yn erfyn i’r gemau gael eu gohirio “ar fyrder” tan 2021 oherwydd y coronafirws.

Cred Pwyllgor Olympaidd Canada a phwyllgor Paraolympaidd y wlad y dylai’r gemau gael eu gwthio yn ôl i warchod iechyd cyhoeddus.

Dywedodd Prif Weithredwyr y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd eu bod yn “cynllunio sawl sefyllfa” i weld beth yw’r posibiliadau mewn sefyllfa sydd yn newid yn ddyddiol yn Japan ac ar draws y byd.

Mewn datganiad, dywedodd y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd eu bod yn “pwysleisio na fyddai canslo Gemau Olympaidd Tokyo 2020 yn datrys unrhyw broblem nac yn helpu unrhyw un. Felly, nid yw canslo ar yr agenda.”

“Annerbyniol ac yn anghyfrifol”

Ond mae Athletwyr Byd-eang yn beirniadu’r Pwyllgor am fod yn araf yn gwneud penderfyniad, gan ei ddisgrifio’n “annerbyniol ac yn anghyfrifol”, a dweud fod y bwrdd llywodraethol wedi “anwybyddu hawliau’r athletwyr unwaith yn rhagor.”

Dywedodd prif weinidog Japan Shinzo Abe wrth ei lywodraeth heddiw, Mawrth 23, nad oedd modd osgoi gohirio os nad oedd y digwyddiad am gael ei gynnal yn llawn oherwydd y pandemig Covid-19.

“Mae Pwyllgor Olympaidd Canada a Phwyllgor paraolympaidd Canada wedi gwneud y penderfyniad anodd i beidio anfon timau Canada i’r gemau Olympaidd na’r para Olympaidd yn ystod Haf 2020,” meddai’r Pwyllgor mewn datganiad.

“Er ein bod yn cydnabod y cymhlethdodau ddaw yn sgil gohirio, does dim yn fwy pwysig nag iechyd a diogelwch ein hathletwyr a’r gymuned byd eang.”

“Nid yw hyn yn unig am iechyd athletwyr – mae’n fater o iechyd cyhoeddus. Gyda Covid-19 a’r peryglon sydd ynghlwm ag e, nid yw’n saff i’n hathletwyr, nac i’w teuluoedd a chymuned ehangach Canada i’r athletwyr barhau i ymarfer tuag at y gemau.”

O ganlyniad i’r galw cynyddol i ohirio’r gemau oherwydd y pandemig, mae Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd nawr yn derbyn efallai y bydd yn rhaid symud y Gemau i ddyddiad newydd.